
Fel nifer o gwsmeriaid eraill banc HSBC, byddaf yn cael galwadau o bryd i’w gilydd gan y rhif 0800 7838422, sef rhif ffôn tîm gwerthu dros y ffôn HSBC. Wrth gwrs, ni fyddant yn dweud “Rydw i’n ffonio o’r tîm gwerthu dros y ffôn ac yn ceisio gwerthu un o gynhyrchion ariannol HSBC i chi”. Na, byddant yn dweud eu bod yn ffonio i weld a ydych yn fodlon gyda gwasanaeth HSBC – galwad gwrteisi yn unig – cyfeillgar a siaradus iawn, ond rydych chi’n gwybod beth yw diben yr alwad. Cynnig rhywbeth i chi. Benthyciad personol, yswiriant, y “cynhyrchion ariannol” arferol. Rydw i’n dychmygu bod manylion eich cyfrif banc ar un ochr o’u sgrîn a rhestr o gynhyrchion a gwasanaethau HSBC ar yr ochr arall. Tasg yr unigolyn cyfeillgar hwn yw chwilio am gyfle, gwerthu rhywbeth a sicrhau bonws.
Wel, rydw i’n gallu bod yn siaradus ac yn gyfeillgar iawn hefyd ar adegau. Ychydig fisoedd yn ôl, cefais sgwrs ddiddorol gydag Albanwr a oedd ar fin mynd ar ei wyliau i ynys Garibïaidd. Nid oedd e’n sylweddoli fy mod i’n cael hwyl, ac nad oedd y bonws braf yr oedd e’n disgwyl ei sicrhau ar ôl ei hanner awr ar y ffôn yn ceisio gwerthu benthyciad personol tymor byr i mi er mwyn talu fy ngorddrafft, yn mynd i ddigwydd. Nid oeddwn yn bwriadu llofnodi’r dogfennau papur a fyddai’n cyrraedd ychydig ddiwrnodau yn ddiweddarach, i gadarnhau’r cytundeb. Yr unig beth yr oeddwn i’n dymuno ei wneud oedd gweld beth fyddai’r gyfradd llog go iawn ar ôl iddynt ychwanegu ffi drefnu ac yswiriant i ddiogelu’r benthyciad, a chymharu hwn gyda’r llog yr oeddwn yn ei dalu ar fy ngorddrafft yn barod. Pan gyrhaeddodd y contract, edrychais ar y ffigurau. Roedd y gyfradd llog go iawn (gan gynnwys y nodweddion ychwanegol) ar y benthyciad personol a oedd yn cael ei gynnig i mi, 50% yn uwch na’r gorddrafft y byddai’n ei dalu.
Fel banciau eraill, mae’n siŵr nad oes gan HSBC yr hawl i ffonio unigolion nad ydynt yn gwsmeriaid iddynt yn ddiwahoddiad, felly byddant yn ffonio eu cwsmeriaid eu hunain, gan esgus ffonio o’r tîm gwasanaethau cwsmeriaid. Gwerthu cynnyrch arall i’r ffyliaid, heb ofidio pa mor amhriodol a drud y gallai fod. Os bydd gan y cynnyrch newydd un fantais amlwg, anwybyddir y dair anfantais.
Nid ydw i’n bwriadu symud i fanc arall gan bod gennyf reolwr cangen gwych ac rydw i’n hoff iawn o wasanaeth Bancio HSBC ar y Rhyngrwyd. Yn ogystal, nid yw HSBC yn unigryw yn hyn o beth, felly’r unig beth y byddai hyn yn ei olygu fyddai symud o un canolfan alwadau i un arall. Byddai’n dda gennyf pe baent yn rhoi’r gorau i wastraffu eu hamser arnaf i, gan na fyddaf fyth yn ateb galwadau wrth 0800 7838422 erbyn hyn, ac ni fyddant fyth yn gadael neges ar y peiriant ateb.
ABC – Always Be Closing…
Dim ond dyfalu sut y caiff y swyddogion gwerthu dros y ffôn hyn eu hyfforddi a’u cymell y gallaf i ei wneud. Roedd David Mamet wedi cael rhywfaint o brofiad o hyn, ac aeth ati i’w gynnwys yn ei ddrama o’r enw “Glengarry Glen Ross”, a chynhyrchwyd ffilm wych ohoni yn ddiweddarach. Dyma sgwrs annog gan Alec Baldwin, y gwerthwr eiddo, i’r staff gwerthu sy’n cael trafferthion – Jack Lemmon, Alan Arkin a Ed Harris – ac mae rheolwr y swyddfa, Kevin Spacey, yn y cefndir. Pan fydd yn siarad am “real-estate”, newidiwch hyn i “cynnyrch ariannol”, a dywedwch hwyl fawr wrth eich arian.
↑ Back to top ↑