Ddoe, buom cerdded ar Fynyddoedd Preseli, Sir Benfro, i’r gorllewin o Drefdraeth, gan gerdded 11 cilomedr. Roedd y tywydd yn fendigedig a llwyddais i dynnu rhai lluniau da, yn enwedig ar ddiwedd y daith, tua 5.00pm, pan ddaeth y tarth i mewn o’r môr gan lyncu Trefdraeth. Symudodd i fyny’r llethr tuag at Fynydd creigiog Carn Ingli, cyn dychwelyd i’r môr fel Tswnami araf.
Roedd y daith yn cychwyn ym maes parcio Bedd Morris, 1,000 troedfedd uwchlaw lefel y môr, gan ddisgyn i’r môr ym Mae Aberhigian, trwy ddilyn rhwydwaith o hen lwybrau’r porthmyn o’r enw lonydd gwyrdd. Mae rhai wedi suddo ac yn gorwedd rhwng waliau cerrig. Mae nifer yn braf ac yn fwdlyd ac yn croesi sawl nant! O’r traeth cerigos ym Mae Aberhigian, roedd y llwybr yn dilyn y clogwyni am hanner milltir i Aberfforest, yna roedd yn gadael yr arfordir cyn dringo’n ôl i’r car.
Mae’r daith hon wedi’i chynnwys yn llyfr Bluestone Country - the Carningli Walks golygwyd gan Brian John [ISBN: 0 9524071 0 8].
↑ Back to top ↑
Discussion Area - Submit a comment
Man Trafod - Rhowch sylwad yma
Your reply will be moderated and not appear immediately. You can prepare your text in a word processor before pasting it into the box, but formatting such as bold and colour will not appear.
Bydd eich ateb yn cael ei cymedroli, ac ni fydd yn ymaddangos yn syth. Medrwch paratoi eich tecst yn y rhaglen word cyn ei rhoi yn y bocs, ond ni fydd elfennau megis trwmder tecst a lliw yn ymddangos.