The Real News Logo

[lang_en]

I get increasingly dissatisfied with the mainstream TV and Radio in the UK. So much of the coverage now is personality driven rather than issue driven, and there is so little in depth coverage of foreign news stories. Repressive regimes such as Burma’s get scant coverage until a humanitarian disaster such as the Myanmar cyclone forces the country into the media spotlight.

  • The BBC constantly runs scared of sticking its neck out in case it gets chopped off as it did over the Iraq “Dodgy Dossier” – even though all the facts it reported subsequently turned out to be true. Even News 24 is parochial and has at least one eye on entertainment rather than information.
  • All TV paid for by advertising is constantly looking over its shoulder to check that the advertisers approve and is concerned primarily with audience figures. Keep it light and happy seems to be the guiding principle here.
  • American stations like ABC, CNN and Fox – the “mainstream media” in the States – are under the thumbs of the advertisers and the the Government. Witness the uncritical acceptance of US Government Propaganda on WMD in the run up to the attack on Iraq. They have failed again to cover real issues in the Presidential race, focussing instead on out of context quotes from controversial associates of Democratic candidates, rather than substantive issues such poverty, healthcare and foreign policy.

How refreshing it has been to find the Real News Network run by “Independent World Television”. Funded entirely by donations it has informative items running for up to 10 minutes. Articles can either be streamed or downloaded as podcasts. I download the podcasts onto my laptop as they become available from the afternoon onwards GMT and watch them in Miro later in the day when the soaps take over the nation.

Here’s a an interview with Paul Jay, the founder of The Real News about what e is trying to achieve.

Break free of the mainstream media and get informed!

[/lang_en]

[lang_cy]

Yn gynyddol, byddaf yn anfodlon â gwasanaeth Teledu a Radio y brif ffrwd yn y DU. Caiff cymaint o’r cynnwys ei seilio ar bersonoliaeth erbyn hyn, yn hytrach na materion, ac ni roddir llawer o sylw manwl i straeon newyddion tramor. Ychydig iawn o sylw a roddir i lywodraethau gormesol megis Byrma, nes bydd trychineb ddyngarol fel seiclon Myanmar yn tynnu sylw’r cyfryngau at y wlad.

  • Yn gyson, gwelir y BBC yn ofni mentro rhag ofn iddi gael ei beirniadu fel y gwnaeth gyda “Ffeil Amheus” Irac – er y daeth yn amlwg wedi hyn bod yr holl ffeithiau a adroddwyd yn wir. Mae hyd yn oed News 24 yn wasanaeth plwyfol, ac yn cadw un llygad ar adloniant yn hytrach na gwybodaeth.
  • Mae’r holl wasanaethau teledu a ariannir gan weithgarwch hysbysebu yn sicrhau bod yr hysbysebwyr yn fodlon, gan roi eu sylw pennaf i’r ffigurau gwylio. Mae’n ymddangos mai darpariaeth ysgafn a hapus yw’r brif egwyddor yn hyn o beth.
  • Mae gorsafoedd Americanaidd megis ABC, CNN a Fox – “cyfryngau’r brif ffrwd” yn yr Unol Daleithiau – dan fawd yr hysbysebwyr a’r Llywodraeth. Derbyniwyd Propaganda Llywodraeth yr UD ynghylch arfau distryw mawr cyn yr ymosodiad ar Irac heb unrhyw feirniadaeth. Unwaith eto, nid ydynt wedi llwyddo i roi sylw i’r materion go iawn yn ystod yr ornest i ddewis Arlywydd nesaf yr Unol Daleithiau, gan ganolbwyntio ar ddyfyniadau gan gydnabod dadleuol ymgeiswyr Democrataidd, na chânt eu dyfynnu yn eu cyd-destun, yn hytrach na materion sylweddol megis tlodi, gofal iechyd a pholisi tramor.

Mae wedi bod yn brofiad braf dod o hyd i Rwydwaith Real News, sy’n cael ei redeg gan “Independent World Television”. Caiff hwn ei ariannu gan roddion ariannol yn gyfan gwbl ac yn mae’n darlledu eitemau diddorol hyd at 10 munud o hyd. Gellir ffrydio neu lawrlwytho erthyglau fel podlediadau. Byddaf yn lawrlwytho’r podlediadau ar fy ngliniadur pan fyddant ar gael yn y prynhawn, ac yn eu gwylio yn Miro gyda’r hwyr pan fydd yr operâu sebon yn teyrnasu gwasanaeth teledu ein cenedl.

Dyma erthygl ddefnyddiol iawn, er ei bod ychydig yn hen, sy’n cynnwys cyfweliad gyda Paul Jay, sylfaenydd The Real News.

Dihangwch rhag cyfryngau’r brif ffrwd a byddwch yn wybodus!

[/lang_cy]

↑ Back to top ↑

Discussion Area - Submit a comment
Man Trafod - Rhowch sylwad yma

Your reply will be moderated and not appear immediately. You can prepare your text in a word processor before pasting it into the box, but formatting such as bold and colour will not appear.

Bydd eich ateb yn cael ei cymedroli, ac ni fydd yn ymaddangos yn syth. Medrwch paratoi eich tecst yn y rhaglen word cyn ei rhoi yn y bocs, ond ni fydd elfennau megis trwmder tecst a lliw yn ymddangos.

eXTReMe Tracker